Welsh Mountain Zoo | Cymorth a nawdd corfforaethol

Cymorth a nawdd corfforaethol

Rhowch ychydig o fywyd yn eich busnes!


Hoffech chi gefnogi achos teilwng iawn? Dyma’r union beth i chi. Mae gennym amrywiaeth o becynnau nawdd corfforaethol ar gyfer busnesau neu sefydliadau sy'n ceisio gwneud eu gorau glas i helpu Teigrod hynod , Pandas Coch fflwfflyd neu Fwncïod Didreidus

Mae cymorth gan fusnesau ac unigolion yn rhan hanfodol o refeniw y Sŵ. Fel elusen, diolch i’r gefnogaeth ardderchog a gafwyd gan y sectorau cyhoeddus a phreifat yr ydym yn gallu parhau i ddarparu cartref i'n hanifeiliaid ac ar yr un pryd cyfrannu at ddyfodol parhaus ein rhywogaethau - llawer ohonynt dan fygythiad.

Aelodaeth Gorfforaethol

Mae aelodaeth gorfforaethol o’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cynnig manteision gwerth chweil i'ch busnes ac i'ch tîm. Cewch fynediad am bris gostyngol drwy gydol y flwyddyn a llu o fanteision rhagorol. Bydd eich cefnogaeth yn ein helpu i barhau i ddarparu gofal i'n hanifeiliaid a bwrw ymlaen â gwaith cadwraeth hanfodol.

Nawdd Corfforaethol

Rydym yn croesawu dros 160,000 o ymwelwyr drwy ein giatiau bob blwyddyn, ac yn cynnig llwyfan delfrydol ichi hysbysebu eich busnes! Mae nawdd corfforaethol yn helpu i roi amlygrwydd i’ch busnes ac yn dangos eich ymrwymiad i gefnogi ein hanifeiliaid a'r amgylchedd ehangach.

Mae'r nawdd yn rhywbeth hyblyg a gellir ei deilwra i gyd-fynd â’ch dymuniadau, gan ymgorffori’r holl elfennau ardderchog y gall y Sŵ eu cynnig.

Creu Partneriaeth Gorfforaethol

Mae creu partneriaeth barhaol gyda’r Sŵ Fynydd Gymreig nid yn unig yn helpu i roi hwb i adnoddau'r Sŵ a'i gallu i ofalu am ei hanifeiliaid ond hefyd mae'n caniatáu i’ch tîm gefnogi a chymryd rhan mewn elusen leol sy’n agos iawn at galon llawer o bobl.

Mae partneriaethau Sŵ yn unigryw ac wedi'u datblygu a’u teilwra’n arbennig, sy’n caniatáu ichi greu'r bartneriaeth berffaith!

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â (who do we insert here as the point of contact for any of the corporate support?)

Gwefan gan FutureStudios