Welsh Mountain Zoo | Sgyrsiau Cadwraethol gan Giperiaid

Sgyrsiau Cadwraethol gan Giperiaid

Adar rhyfeddol

Beth am edmygu rhyfeddod ac amrywiaeth ein casgliad o adar godidog? Yn eu plith y macaw beiddgar llachar a’r dylluan fedrus. Gallwch weld ein hadar mawreddog yn hedfan yn ystod yr arddangosiadau hedfan a gynhelir ddwywaith y dydd (rhwng mis Ebrill a mis Hydref os bydd y tywydd yn caniatáu). Sylwer: bydd yr adar hyn yn dilyn cylchdro felly ni fyddant yn cael eu hedfan bob dydd.

Tsimpansïaid Busneslyd

Cyfle i ddweud helo wrth ein Tsimpansïaid wrth i'n cyflwynydd fynd â chi ar daith weledol i fyd un o’r Primatiaid mwyaf hoffus a busneslyd. Cewch ddysgu am eu bywyd yn y gwyllt drwy ddilyn cyflwyniad clyweledol syfrdanol cyn cael cyfle i agosáu at ein hanifeiliaid mwyaf direidus.

Y Morloi Clustiog a’u Castiau

Ym mhwll ac ardal weithgareddau ardderchog y Morloi Clustiog cynhelir yr arddangosiadau dŵr mwyaf cyffrous a difyr a welwch erioed. Gwyliwch Forloi Clustiog Califfornia yn plymio ac yn dowcio, yn nofio ac yn chwarae ac yn dangos eu hunain i bawb!

Amser Chwarae’r Pengwiniaid

Campau’r pengwiniaid ar eu gorau! Gwyliwch hwy yn cerdded, yn honcian ac yn llithro drwy’r dŵr. Mae’r creaduriaid hynod hoffus hyn yn dangos eu sgiliau inni i mewn ac allan o’r dŵr!

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ar ein cyflwyniadau ewch i amserlen y sioeau ar y wefan.

Gwefan gan FutureStudios