Anogir addysgwyr sy'n gweithio gyda phob oedran a gallu i ddefnyddio ein cyfleusterau helaeth. Gallant gael gafael ar gyfoeth o wybodaeth a manteisio ar wybodaeth ein staff eithriadol yn y Sŵ Fynydd Gymreig.
Yn unol â chanllawiau COVID-19 y Llywodraeth, rydym wedi gwneud newidiadau i’n ffordd o weithredu yn y Sŵ. Er mwyn cael y manylion diweddaraf am y mesurau diogelwch sydd ar waith cliciwch yma.
Mae ein Canolfan WILD (Wildlife Inspiring Learning and Discovery), yn cynnig ystod amrywiol o sesiynau addysgol, a phob un ohonynt yn cysylltu â'r cwricwlwm cenedlaethol. Cawsant eu cynllunio i wella dysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth mewn amgylchedd ysbrydoledig. Mae'r sesiynau ar gael i’r plant lleiaf sy’n caru anifeiliaid, wrth iddynt gychwyn ar eu taith addysgiadol yn y feithrinfa a cheir sesiynau hefyd i fyfyrwyr addysg uwch.
I'r rhai ohonoch nad ydych yn gallu ymweld â'r Sŵ, beth am inni ddod â'r Sŵ atoch chi? Gall aelodau ein Tîm Addysg ddod draw i ddosbarthiadau mewn ysgolion a grwpiau cymunedol fel rhan o'n rhaglen allgymorth.
Mae pob un o'n sesiynau yn darparu ar gyfer dysgu cyffyrddol drwy ddefnyddio ystod amrywiol o arteffactau fel blew, plu, cen, dannedd a hen grwyn wedi eu bwrw. Pan fo’n bosibl, bydd y staff addysg hefyd yn ceisio defnyddio anifail yn eu sesiwn. (Sylwer – Bydd y Rheolwr Addysg yn penderfynu a fydd hyn yn ddoeth a bydd yn ddibynnol ar les yr anifail dan sylw ar y diwrnod).
WILD Sessions Booking Form
New for 2020 we are please to offer Virtual WILD (Wildlife Inspiring Learning and Discovery) sessions. These sessions are available to schools, higher education facilities and community groups, for all ages and abilities.
Virtual sessions will be delivered from our onsite education centre where we have a range of animal artefacts and live animals available to meet you.
Sessions can be tailor made to suit your groups needs and interests. We have a range of pre-prepared sessions too, including Yoga and Mindfulness and practical Science sessions in line with the national curriculum.
Groups will require a platform to stream the session, we are happy to use a range of platforms to offer sessions.
Sessions cost £30 for 45 minutes, subsequent sessions can be bought for £15 each.
Contact the Education Manager to book and find out more: education@welshmountainzoo.org