Cynefinoedd anifeiliaid: Bydd grwpiau yn dysgu am ddau gynefin eithafol gwahanol iawn lle mae anifeiliaid yn byw. Byddant yn dysgu sut mae gwahanol anifeiliaid yn gallu goroesi o fewn y gwahanol amodau hyn a sut maen nhw wedi addasu ar gyfer byw yno. Bydd amrywiaeth o arteffactau yn cael eu defnyddio i ategu'r sesiwn.
Dosbarthiadau: Cyflwyniad i bum dosbarthiad gwahanol anifeiliaid asgwrn cefn. Nod y sesiwn hon yw dysgu disgyblion sut i adnabod nodweddion allweddol y gwahanol ddosbarthiadau o anifeiliaid. Rhoddir cyfle i ddisgyblion drin amrywiaeth o arteffactau sy’n perthyn i wahanol ddosbarthiadau.
Miri’r mân greaduriaid: Bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol fân greaduriaid sydd i’w cael mewn amrywiaeth o gynefinoedd gwahanol. Byddant yn cael eu hannog i ddefnyddio allwedd adnabod a siart marciau rhifo wrth chwilio am eu mân greaduriaid eu hunain yn ystod y sesiwn.
Ein fforestydd glaw: Mae'r sesiwn hon yn seiliedig ar yr haenau gwahanol a geir yn ein fforestydd glaw; mae'n canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng pob haen ac yn edrych ar ba anifeiliaid y gallech eu canfod yn byw ynddynt a pha addasiadau sydd ganddynt sy'n eu gwneud yn addas ar gyfer byw ym mhob un o'r haenau gwahanol hyn. Bydd y myfyrwyr yn cael trin amrywiaeth o arteffactau sy'n ategu'r sesiwn.
Deietau anifeiliaid: Bydd y myfyrwyr yn dysgu am y gwahanol fathau o ddeiet sydd gan anifeiliaid. Mae’r sesiwn hon yn edrych ar beth yw deiet a’r rheswm dros ddeietau gwahanol. Bydd y grŵp yn gallu trin gwahanol arteffactau sy'n ymwneud â'r pwnc hwn yn ystod y sesiwn.
Cylchredau bywyd: Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar gylchredau bywyd amrywiol mamaliaid (gan gynnwys pobl), adar, ymlusgiaid, pysgod, amffibiaid a phryfed. Mae'n edrych ar y gwahanol gyfnodau yng nghylchredau bywyd pob categori. Mae'r myfyrwyr yn gallu gwneud gwaith ymarferol drwy drin amrywiaeth o arteffactau sy'n ategu'r sesiwn.
Sesiynau wedi'u teilwra: Gellir trefnu sesiynau sy’n ategu'r dysgu sy'n digwydd yn yr ysgol. Fel arall, gall y staff addysg lunio sesiwn hwyliog ac addysgiadol gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yng Nghanolfan WILD.