Welsh Mountain Zoo | Cyfnod Allweddol 2

Cyfnod Allweddol 2

Cynefinoedd: Mae'r sesiwn hon yn edrych ar bedwar cynefin gwahanol a sut y mae gwahanol anifeiliaid wedi addasu'n arbennig i oroesi yn yr ardaloedd hyn. Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i wneud gwaith ymarferol wrth drin amrywiaeth o arteffactau sy'n ategu’r dysgu.

Dosbarthiadau: Bydd myfyrwyr yn dysgu am y 5 categori gwahanol o anifeiliaid asgwrn cefn ynghyd â chael eu haddysgu am infertebratau. Bydd y myfyrwyr yn gallu nodi nodweddion allweddol sy'n diffinio i ba gategori mae gwahanol anifeiliaid yn perthyn. Defnyddir amrywiaeth o arteffactau yn ystod y sesiwn, a bydd modd i'r myfyrwyr drin y rhain hefyd!

Detholiad naturiol: Bydd grwpiau yn dysgu am Charles Darwin, theori dethol naturiol a goroesiad y cymhwysaf. Bydd myfyrwyr yn dysgu am amrywiadau mewn rhywogaethau ac yn gweld enghreifftiau o sut y mae amrywiad yn helpu parhad rhywogaethau gwahanol ond byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i'r syniad na fu angen i bob rhywogaeth esblygu'n ddramatig er mwyn goroesi. Bydd amrywiaeth o arteffactau yn cael eu defnyddio ochr yn ochr â’r sesiwn, a bydd modd i'r myfyrwyr drin y rhain.

Coedwigoedd a datgoedwigo: Mae'r wers hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddysgu am yr elfennau a'r amodau a geir mewn coedwigoedd ac mae hefyd yn amlygu’r bygythiadau i'n coedwigoedd a sut y gallwn helpu gydag ymdrechion cadwraeth. Mae amrywiaeth o arteffactau yn cyd-fynd â’r sesiwn hon fel bod myfyrwyr yn gallu cael profiad ymarferol wrth ddysgu.

Deietau a dannedd: Bydd myfyrwyr yn cael eu dysgu am y gwahanol fathau o ddeiet sydd gan anifeiliaid, yn ogystal â dysgu am ddannedd a'r ffordd y mae mathau penodol o ddannedd yn fwy addas ar gyfer pob diet. Mae'r sesiwn hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr edrych ar ystod o arteffactau sy'n ategu'r sesiwn.

Cylchredau bywyd: Mae'r sesiwn hon yn canolbwyntio ar gylchredau bywyd amrywiol mamaliaid (gan gynnwys pobl), adar, ymlusgiaid, pysgod, amffibiaid a phryfed. Mae'n edrych ar wahanol gyfnodau cylchredau bywyd y mae pob categori yn mynd drwyddynt yn ystod eu bywyd. Mae'r myfyrwyr yn gallu gwneud gwaith ymarferol drwy drin amrywiaeth o arteffactau sy'n ategu'r sesiwn.

Sesiynau wedi'u teilwra: Gellir trefnu sesiynau sy’n ategu'r dysgu sy'n digwydd yn yr ysgol. Fel arall, gall y staff addysg lunio sesiwn hwyliog ac addysgiadol gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yng Nghanolfan WILD.

Gwefan gan FutureStudios