Welsh Mountain Zoo | Cyfnod Allweddol 3

Cyfnod Allweddol 3

Ein hamgylchedd newidiol: Mae'r sesiwn hon yn edrych ar sut y mae ein hinsawdd yn newid, y rhesymau pam y mae hyn yn digwydd a sut y gallwn arafu effeithiau newid hinsawdd.

Pam y mae angen Sŵau?: Mae’r myfyrwyr yn cael eu dysgu am bwysigrwydd Sŵau mewn perthynas ag ymdrechion cadwraethol hanfodol a sut y mae Sŵau wedi atal diflaniad gwahanol rywogaethau.

Anifeiliaid mewn perygl: Mae’r sesiwn hon yn edrych ar y rhesymau pam y mae anifeiliaid mewn perygl, ac yn trafod pynciau fel hela, colli cynefin a newidiadau amgylcheddol. Mae'r sesiwn hefyd yn dangos sut y gall myfyrwyr helpu i ddiogelu rhywogaethau a'u cynefinoedd.

Sesiynau wedi'u teilwra: Gellir trefnu sesiynau sy’n ategu'r dysgu sy'n digwydd yn yr ysgol. Fel arall, gall y staff addysg lunio sesiwn hwyliog ac addysgiadol gan ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yng Nghanolfan WILD.

Gwefan gan FutureStudios