Welsh Mountain Zoo | Sesiynau allgymorth

Sesiynau allgymorth

Dod â’r Sŵ atoch chi!


Yn unol â chanllawiau COVID-19 y Llywodraeth, rydym wedi gwneud newidiadau i’n ffordd o weithredu yn y Sŵ. Er mwyn cael y manylion diweddaraf am y mesurau diogelwch sydd ar waith cliciwch yma.


Mae ein Tîm Addysg yn dod â’u gwybodaeth eang o holl agweddau’r Sŵ yn syth atoch chi!

Yn ystod y tymor tawelach, rhwng mis Medi a'r Pasg, mae ein Tîm Addysg ar gael i ymweld ag ysgolion a grwpiau gan ddod ag arteffactau anifeiliaid i'ch ystafell ddosbarth neu at eich grŵp. Yn ystod y sesiynau hyblyg hyn, trafodir pynciau penodol a gellir dod â rhai o’r mân anifeiliaid sy’n byw yn y Sŵ draw atoch hefyd. Mae'r sesiynau hyn yn ddelfrydol ar gyfer pob cyfnod ysgol gan ei fod yn rhoi cyfle i blant weld a dod i gysylltiad ag amrywiaeth o anifeiliaid byw a bio-arteffactau.

Gellir cynnal ymweliadau am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan, a chaiff cost yr ymweliad hwn ei ad-dalu yn erbyn cost ymweliad grŵp pan fydd yr un grŵp yn ymweld â'r Sŵ o fewn blwyddyn. Mae'r prisiau yn cychwyn o £50 am hanner diwrnod a £100 am ddiwrnod cyfan.

Er mwyn cael rhagor o fanylion cysylltwch â’n Hadran Addysg drwy ffonio 01492 532938 estyniad 5 neu drwy anfon e-bost i education@welshmountainzoo.org.

WILD Outreach Session Booking form

Gwefan gan FutureStudios