Dewch i ddathlu pen-blwydd eich mwncïod bach gyda ni yma yn Y Sŵ Fynydd Gymreig!
Gallwch chi a'ch ffrindiau fwynhau diwrnod allan yn y Sŵ gan gynnwys cinio yn un o'n bwytai. Beth am sicrhau fod pen-blwydd eich mwnci bach direidus yn FYTHGOFIADWY drwy fabwysiadu ei hoff anifail? Drwy fabwysiadu anifail byddwch yn cael sgwrs â’r ciper sy’n gofalu amdano, tystysgrif, plac arbennig ar y ffald, llun a thocynnau di-dâl. Fel arall, gellir ychwanegu sesiynau cyfarfod ag anifail hefyd at y dathliadau pen-blwydd. Dyma gyfle perffaith i gyfarfod ac i fwydo un o'n hanifeiliaid yma yn y Sŵ Fynydd Gymreig (ymwelwyr 7 oed a hŷn yn unig).
Beth am sicrhau fod Pen-blwydd eich plentyn yn un bythgofiadwy? Mwynhewch amrywiaeth eang o brydau bwyd yn ein Bwyty Saffari gwobrwyedig neu yng Nghaffi Pengwin a chael diwrnod pleserus yn archwilio’r Sŵ Fynydd Gymreig a’r holl bethau mae’n eu cynnig, gan gynnwys bwydo a hyfforddi’r Morloi Clustiog a Pharêd y Pengwiniaid. Mae partïon pen-blwydd ar gael i grwpiau o fwy na 6 o blant.
CAM 1 – DEWISWCH Y NIFER SYDD YN EICH PARTI
Mae pob pecyn pen-blwydd (£14.15) yn cynnwys mynediad i’r Sŵ am ddiwrnod. Mae’r pecyn yn cynnwys pryd o fwyd, hufen iâ yn bwdin a diod ym Mwyty Saffari/Caffi Pengwin gyda balwnau.
CAM 2 – DEWISWCH EICH PRYD O FWYD O’N BWYDLEN
PRYD O FWYD POETH
A - Nygets Cyw Iâr a Sglodion
B - Ci Poeth a Sglodion
C - (Bwyty Saffari yn Unig) Pasta Cartref Wedi ei Grasu
PRYD O FWYD OER
D – Bocs Bwyd y Jyngl
CAM 3 – ELFENNAU YCHWANEGOL OPSIYNOL
Beth am sicrhau fod pen-blwydd eich mwnci bach direidus yn FYTHGOFIADWY drwy fabwysiadu ei hoff anifail? Drwy fabwysiadu anifail byddwch yn cael sgwrs â’r ciper sy’n gofalu amdano, tystysgrif, plac arbennig ar y ffald, llun a thocynnau di-dâl. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cliciwch yma.
Fel arall, gellir ychwanegu sesiynau cyfarfod ag anifail hefyd at y dathliadau pen-blwydd. Dyma gyfle perffaith i gyfarfod ac i fwydo un o'n hanifeiliaid yma yn y Sŵ Fynydd Gymreig (ymwelwyr 7 oed a hŷn yn unig). Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ein Profiadau Anifeiliaid, cysylltwch â’n swyddfa drwy ffonio 01492 532 938 estyniad 3.
BYDD OEDOLION SY’N DOD GYDA PHLANT YN TALU £11.35
Caniateir mynediad AM DDIM i un oedolyn gyda phob 10 o blant sy’n talu pris llawn. Lawrlwythwch ein Ffurflen Archebu Parti. Cliciwch Yma. Rhaid archebu pob parti pen-blwydd a thalu yn llawn amdanynt o leiaf wythnos ymlaen llaw. Os na fyddwch yn dod wedi’r cwbl, dim ond y pris mynediad fydd yn cael ei ad-dalu. Ni allwn ad-dalu pris y bwyd. Os bydd gennych anghenion dietegol ffoniwch Fwyty Saffari. Er mwyn archebu ffoniwch 01492 532938, estyniad 3.