Beth am wneud eich diwrnod meithrin tîm nesaf yn dra arbennig gyda ni yma yn y Sŵ Fynydd Gymreig. Cyfle i wella ac i ysgogi synhwyrau eich staff drwy ddewis lleoliad unigryw y Sŵ a chreu diwrnod pwrpasol sy’n canolbwyntio ar ein hanifeiliaid rhyfeddol, mewn amgylchedd ymlaciol.
Gallwn eich helpu i ddatblygu pecyn wedi'i deilwra'n arbennig a fydd yn helpu i amlygu nodweddion gorau eich tîm! Felly, tra bydd eich cydweithwyr yn brysur yn dysgu sut i gyfathrebu'n fwy effeithiol, manteisiwch ar y cyfle i gysylltu â’u creadigrwydd mewnol neu i fireinio sgiliau trafod a chynllunio gyda chymorth ein gweithgareddau cynlluniedig. Bydd hyn i gyd yn digwydd tra byddant yn mwynhau diwrnod ysbrydoledig yn ddigon pell o’r swyddfa.
Mae pecynnau diwrnod llawn rhwng 10am a 4pm ac yn cynnwys:
- Mynediad am ddiwrnod cyfan i’r Sŵ Fynydd Gymreig
- Bap brecwast a Diod Boeth
- Pecyn Cinio neu Bwffe ar gael
- Gweithgareddau tîm yn y bore a’r prynhawn, yn cynnwys cwisiau a heriau tîm
- Gweithgareddau Cyfoethogi gyda’r Anfeiliaid
- Sesiynau Bwydo Anifeiliaid
- Taith dywysedig o amgylch y Sŵ
- Pecyn nwyddau i fynd adref gyda chi
- Tynnu llun a’i anfon drwy e-bost