Welsh Mountain Zoo | Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau

Y SŴ FYNYDD GYMREIG - TELERAU AC AMODAU PROFIAD ANIFAIL


Nodwch y pwyntiau canlynol wrth archebu Profiad Anifail yn y Sŵ Fynydd Gymreig:

Argaeledd

  • Mae pob profiad anifail ar gael bob dydd o’r flwyddyn ac eithrio ar Ddydd Nadolig.
  • Rydym yn cynghori pob un o’n hymwelwyr sy'n dymuno cymryd rhan mewn profiad i archebu lle cyn belled ymlaen llaw ag sydd bosibl. Rydym yn awgrymu pedwar dyddiad posibl er mwyn inni allu ateb eich gofynion yn well. Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth electronig safonol o'ch archeb ond ni fydd dyddiad eich archeb yn cael ei gadarnhau nes byddwch yn derbyn eich pecyn cadarnhau drwy’r post.
  • Pan fyddwch yn archebu rhowch wybod inni a fydd gan unrhyw un sy'n cymryd rhan ofynion ychwanegol gan gynnwys anabledd, beichiogrwydd, deiet neu wrthimiwnedd, a allai olygu bod angen amrywio neu newid profiad. Byddwn yn darparu ar gyfer unrhyw un hyd eithaf ein gallu.
  • Nid yw'r Sŵ Fynydd Gymreig yn caniatáu i ferched beichiog gymryd rhan mewn profiad anifail heb iddynt ofyn cyngor eu meddyg yn gyntaf. Bydd angen prawf o hyn.
  • Rhaid archebu lle a chael y profiad o fewn blwyddyn yn dilyn y dyddiad prynu. Golyga hyn, os bydd y profiad yn cael ei brynu fel anrheg, ac os yw'r dyddiad wedi'i adael yn agored gan y prynwr, mae gan y sawl sy’n derbyn y rhodd 12 mis i gysylltu â'r Sŵ a dod i gael y profiad.
  • Mae pob profiad yn breifat ac ni fyddant yn cael eu rhannu ag unrhyw bersonau eraill.
  • Rhaid i'r holl gyfranogwyr o dan 16 oed gael eu goruchwylio gan oedolyn cyfrifol dros 18 oed drwy gydol eu profiad a'u hymweliad.
  • Rydym wedi ymrwymo i warchod ac amddiffyn plant ac oedolion bregus wrth iddynt fwynhau eu hymweliad o amgylch Y Sŵ Fynydd Gymreig. Fel rhan o bolisi diogelu’r Sŵ Fynydd Gymreig, mae'r Sŵ fel cyflogwr, ynghyd â'n gweithwyr, yn ymrwymo i ddiogelu lles pobl ifanc ac oedolion bregus. Rydym yn llwyr gefnogi polisi cyfredol y Llywodraeth yn ei nod i amddiffyn pobl ifanc ac oedolion bregus; i atal cam-drin corfforol, rhywiol neu emosiynol. Fel cyflogwyr, nid ydym yn credu bod ein profiadau anifail yn cael eu hystyried yn weithgareddau a reoleiddir yn ôl canllawiau statudol yr Ysgrifennydd Gwladol ar oruchwylio gweithgaredd gweithwyr â phlant. Er gwaethaf hyn, mae'r Sŵ Fynydd Gymreig yn gofyn fod pob plentyn dan 16 oed yn cael ei oruchwylio yn ystod y profiad anifail, fel rhan o'n Polisi Diogelu ni gan sicrhau goruchwyliaeth ddigonol bob amser.

Diddymiadau a newidiadau

  • Cymerir tâl pan fyddwch yn archebu.

  • Os bydd eich profiad yn cael ei aildrefnu 14 diwrnod cyn eich dyddiad profiad gwneir hynny yn rhad ac am ddim. Un profiad yn unig a ganiateir ar gyfer pob archeb a rhaid ei gymryd o fewn y 12 mis ar ôl prynu'r profiad.
  • Bydd tâl gweinyddu o £10 yn daladwy am gostau gweinyddol os yw'r profiad yn cael ei aildrefnu lai na 14 diwrnod cyn y dyddiad a drefnwyd yn wreiddiol.
  • Gellir rhoi ad-daliadau i'r prynwr yn unig, a chodir ffi weinyddol o £10 a rhaid gwneud cais amdanynt o fewn y 3 mis cyntaf ar ôl y dyddiad prynu.
  • Os nad ydych yn gallu dod i'ch profiad oherwydd amgylchiadau na ellid eu rhagweld ac os na fyddwch yn gallu cysylltu, byddwn yn caniatáu ad-drefnu’r dyddiad profiad un waith yn ddi-dâl. Ar ôl hynny, os byddwch yn dal i fethu â dod i’ch profiad, ni fydd cost y profiad yn cael ei had-dalu ac ni chynigir unrhyw ddyddiadau eraill yn ei le.
  • Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cadw'r hawl i aildrefnu neu ganslo profiad ar unrhyw adeg os oes angen. Bydd yn rhoi hysbysiad cyn belled ymlaen llaw ag sy'n bosibl.

Ar y diwrnod


  • Gwisgwch ddillad sy'n addas ar gyfer gweithio gyda'r anifeiliaid ac ar gyfer pob tywydd gan gynnwys trowsus hir ac esgidiau sy’n cuddio blaen y traed fel esgidiau ymarfer, esgidiau cerdded neu esgidiau glaw. Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cadw'r hawl i wrthod unigolion nad ydynt yn gwisgo dillad addas heb gynnig ad-daliad.
  • Profiad ar gyfer y derbynnydd/derbynwyr yn unig yw hwn a byddwn yn caniatáu un neu ddau o westeion yn rhad ac am ddim fel rhan o'r pecyn a brynwyd gennych. Bydd yn rhaid i unrhyw westeion eraill dalu'r pris mynediad llawn.
  • Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn cadw'r hawl i ofyn i unrhyw gyfranogwr adael y Sŵ os bydd yn ymddwyn mewn modd amhriodol neu anniogel sy'n debygol o’i roi ef ei hun, staff, ymwelwyr eraill neu anifeiliaid mewn perygl.
  • Mae angen lefel resymol o ffitrwydd i gymryd rhan ym mhob profiad.
  • Nid yw'r profiadau'n addas i'r rhai sydd ag alergedd i lwch, ffwr anifeiliaid neu wasarn.
  • Byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar gyfer pobl sy’n cyrraedd yn hwyr, fodd bynnag efallai y bydd yr amser hwn yn cael ei dynnu o'ch profiad.

Ciper am Ddiwrnod

  • Mae Ciper am Ddiwrnod ar gael i bobl 16 oed a throsodd.
  • Ni all y Sŵ Fynydd Gymreig warantu y bydd unrhyw anifeiliaid penodol ar gael i’w cyfarfod yn ystod profiad. Fodd bynnag, os gofynnir ac os cytunir ymlaen llaw, byddwn yn ceisio darparu ar gyfer unrhyw geisiadau arbennig i gwrdd ag anifeiliaid penodol. Mae hyn yn ôl disgresiwn y Sŵ.
  • Cynlluniwyd amserlen Ciper am Ddiwrnod er mwyn caniatáu cymaint o amser â phosibl gyda'r ciperiaid a hynny heb ymyrryd â’r gwaith o redeg y Sŵ. Felly, nid yw'n bosibl newid unrhyw un o'r gweithgareddau sydd ar gael.

Cyfarfod Anifail

  • Rhaid bod yn 7 oed o leiaf i gymryd rhan yn y profiad hwn. RHAID i bob plentyn o dan 16 oed gael ei oruchwylio gan oedolyn cyfrifol dros 18 oed bob amser ac ni fydd yn rhaid iddo gymryd rhan yn y cyfarfyddiad.

Talebau Rhodd Profiadau

  • Nodwch nad yw’n bosibl cyfnewid unrhyw daleb rhodd am arian.
  • Nid yw’r Sŵ Fynydd Gymreig dan unrhyw rwymedigaeth i adnewyddu neu ad-dalu talebau sy’n cael eu colli, eu dwyn, eu difrodi neu eu dinistrio, pa un a ydynt wedi eu defnyddio ai peidio.
  • Bydd talebau a ail-werthir neu a drosglwyddir er elw neu fudd masnachol yn ddi-rym.
  • Dim ond yn y Sŵ Fynydd Gymreig y gellir defnyddio’r talebau rhodd.
  • Rhaid defnyddio pob taleb rhodd o fewn 12 mis ar ôl ei phrynu.

Diogelu Data

  • Bydd y data a ddarperir gennych yn cael ei ddefnyddio’n unig i’r diben a fwriadwyd ac ni fydd yn cael ei drosglwyddo i unrhyw drydydd parti.
Gwefan gan FutureStudios