Yn unol â chanllawiau COVID-19 y Llywodraeth, rydym wedi gwneud newidiadau i’n ffordd o weithredu yn y Sŵ. Er mwyn cael y manylion diweddaraf am y mesurau diogelwch sydd ar waith cliciwch yma.
Ydi. Mae Cydgymdeithas Cymdeithas Sŵolegol Cymru (CSC), (elusen gofrestredig rhif 507970) yn cynnig aelodaeth i unigolion, teuluoedd a grwpiau. Mae dau wahanol fath o aelodaeth - aelodaeth lawn ac aelodaeth gysylltiol. Mae aelodaeth lawn yn cynnig mynediad di-dâl a mynediad gostyngol i Grwpiau, darlithoedd a sgyrsiau, y posibilrwydd o gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gymdeithas, digwyddiadau cymdeithasol a chylchlythyrau rheolaidd. Mae Aelodaeth Gysylltiol yn cynnig Un Mynediad Di-dâl i’r Sŵ y person, y flwyddyn, darlithoedd a sgyrsiau a chylchlythyrau rheolaidd. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ysgrifennwch at: Cydgymdeithas CSC yng ngofal Y Sŵ Fynydd Gymreig Bae Colwyn, Gogledd Cymru LL28 5UY neu e-bostiwch: zswa@welshmountainzoo.org
Ydi. Mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn agored drwy gydol y flwyddyn, ar wahân i Ddydd Nadolig. Os bydd hi’n dywydd garw, er enghraifft eira, rhew neu wyntoedd cryfion ffoniwch 01492 532938 a phwyso 3 i siarad â Swyddog y Sŵ ar ôl 9 o’r gloch ar fore eich ymweliad. Os na fydd neb yn y swyddfa bydd y Sŵ wedi cau.
Mae’r Sŵ yn agor am 9.30 am bob dydd. Er mwyn gweld yr amseroedd cau a mynediad olaf cliciwch yma.
Mae’r Sŵ ar ben bryn uwchben Bae Colwyn yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn teithio mewn car, gadewch draffordd A55 yng nghyfnewidfa Llandrillo-yn-Rhos (Cyffordd 20) – dim ond 3 munud o waith gyrru yw’r Sŵ oddi yma ac mae wedi ei harwyddo. Adeg y Pasg hyd at ganol mis Medi bydd bws mini di-dâl y Sŵ yn cynnal gwasanaeth di-dor yn ddyddiol o Orsaf Reilffordd Bae Colwyn.
Y Sŵ Fynydd Gymreig, Yr Hen Briffordd, Bae Colwyn, Conwy LL28 5UY
Oherwydd ei lleoliad, efallai y bydd ymwelwyr sy’n cael trafferth i symud yn cael anhawster i fynd i rannau arbennig o’r Sŵ. Ni chodir tâl mynediad ar bobl sy’n gaeth i gadeiriau olwyn. Gweler ein Datganiad Hygyrchedd i gael rhagor o fanylion.
Ydym. Mae’n bosibl llogi cadeiriau olwyn yn ddi-dâl o Swyddfa’r Sŵ.
Ar hyn o bryd nid ydym yn llogi pramiau ysgafn na bygis.
Mae’r Sŵ a’r gerddi ar safle 37 acer.
Bydd. Mae gennym faes parcio canolog ar gyfer coetsis a cheir gyferbyn â Siop Roddion Sŵfenir. Hefyd, yn ystod amseroedd mwy prysur efallai y byddwn yn defnyddio ein maes parcio ychwanegol. Mae’n bosibl cael mynediad i hwn drwy gydol y dydd.
All of the parking here is free of charge.
Mae gan y Sŵ gyfleusterau arlwyo drwy gydol y flwyddyn. Mae Caffi Pengwin a Bwyty Saffari yn paratoi amrywiaeth o brydau poeth ac oer a lluniaeth drwy’r dydd. Mae siop hufen iâ a siop felysion hefyd ar agor yn ystod cyfnodau prysur. Os bydd gennych anghenion arbennig o ran diet ffoniwch 01492 532938 estyniad 3 a gofyn am y Caffi neu’r Bwyty neu anfonwch e-bost i zoo@hotelsandtaverns.com.
Mae popty microdon ar gael i ymwelwyr ym Mwyty Saffari ar gyfer cynhesu bwyd babi.
Sylwer: yn ystod cyfnodau tawelach efallai mai dim ond un o’r mannau bwyta fydd yn agored.
Ceir llawer o fannau picnic o amgylch y Sŵ. Hefyd ceir digon o leoedd agored lle gallwch eistedd i fwynhau picnic a mwynhau ein golygfeydd anhygoel yr un pryd.
Erbyn hyn mae gan y Sŵ Fynydd Gymreig fynediad Wi-Fi di-dâl ym mhob rhan o’r parc i lawrlwytho ap y Sŵ Fynydd Gymreig ac i ddefnyddio gwefan y Sŵ Fynydd Gymreig.
Oes. Mae’r cyfleuster hwn y drws nesaf i Siop Roddion Sŵfenir.
Rhaid i blant dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn pan fyddant yn ymweld â’r Sŵ.
Nid yw ysmygu yn cael ei ganiatáu yn unrhyw un o’r adeiladau o amgylch y Sŵ, gan gynnwys yr holl ardaloedd dan do. Gofynnwn i ymwelwyr fod yn ystyriol o ymwelwyr eraill ac rydym yn annog pobl i beidio ag ysmygu mewn mannau agored o’r Sŵ. Ni chaniateir ysmygu pan fo ymwelwyr wedi ymgynnull gyda’i gilydd i wylio ein harddangosiadau neu ein sioeau. Yn ystod cyfnodau o sychder gallai tân beryglu coetiroedd a glaswelltiroedd agored y Sŵ. Gofynnwn i ysmygwyr beidio ag ysmygu yn yr ardaloedd hyn ac i fod yn ofalus gyda fflamau noeth. Taflwch eich sbwriel i’r biniau pwrpasol.
Na. Gall pawb barcio yn rhad ac am ddim. Mae ceir yn parcio ym maes parcio’r Sŵ Fynydd Gymreig ar risg y perchennog ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am golli neu ddifrodi cerbydau, eu cynnwys na niwed i bersonau.
Oes. Holwch wrth y Giât os bydd arnoch angen cilfach Barcio i’r Anabl.
Ydym. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn cliciwch yma.
Mae cael tocynnau wedi eu hargraffu yn cyflymu pethau ychydig, ond nid yw'n hanfodol gwneud hynny, gallwch eu dangos inni ar eich ffôn neu ar eich llechen.
Ydym. Fodd bynnag, mae’r pris yn sylweddol is ar gyfer y ddau ac mae’n bosibl cael tocynnau yn rhatach eto ar-lein. Er mwyn cael y prisiau cliciwch yma.
Llythyr Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) / Llythyr Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), Llyfryn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Bathodyn Glas/Oren neu lythyr gan eich meddyg teulu.
Ar hyn o bryd nid ydym yn cynnig y gostyngiadau hyn. Fodd bynnag, mae'r Sŵ yn derbyn talebau Deg Prif Atyniad sy'n rhoi hawl i'r sawl sy’n talu arbed £1.50 oddi ar bris tocyn oedolyn (os bydd yng nghwmni oedolyn arall sy’n talu pris mynediad llawn) neu £1 oddi ar un tocyn teulu. Ewch i wefan Deg Prif Atyniad i gael mwy o fanylion.
Rydym hefyd yn derbyn Cerdyn Eryri. Ewch i wefan Atyniadau Eryri i gael rhagor o fanylion.
Darllenwch y talebau er mwyn gweld y telerau a’r amodau.
Bydd gwasanaeth bws mini di-dâl y Sŵ o orsaf reilffordd Bae Colwyn yn cychwyn ar 6 Ebrill 2019 hyd at 8 Medi 2019. Bydd y daith gyntaf o'r orsaf yn dechrau am 10:00am ac yna’n gweithredu system dolen barhaus drwy gydol y dydd. Bydd y daith olaf i lawr o'r Sŵ yn gadael ychydig cyn 4:45pm. Os ydych chi'n trefnu grŵp ac yn dymuno defnyddio'r gwasanaeth bws mini, cysylltwch â Swyddfa'r Sŵ yn gyntaf drwy ffonio 01492 532938, a phwyso 3 pan fydd y neges ateb awtomatig yn cychwyn.
*** Sylwer na all blant dan dair oed deithio ar y bws mini heb ddefnyddio seddi diogel cywir. Gall teithwyr ddefnyddio’u seddi plant eu hunain os byddant yn gosod y sedd yn gywir ac yn strapio’r plentyn dan 3 oed yn ei sedd. Ni all gyrrwr y bws osod y sedd hon i’r teithwyr.
Mae gan y Sŵ hefyd un sedd plentyn ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed (0 – 18kg). Bydd gyrrwr y bws mini yn gosod y sedd yn gywir yn ôl y pwysau a nodir gan y rhiant/gwarcheidwad. Mae’n rhaid i’r rhiant/gwarcheidwad strapio’r plentyn yn ei sedd ac yna bydd y gyrrwr yn sicrhau fod y plentyn wedi ei strapio’n ddiogel yn unol â chanllawiau’r gwneuthurwr. Os nad oes gennych eich sedd eich hun ac os yw sedd y Sŵ yn cael ei defnyddio eisoes, rhaid ichi ddisgwyl nes bydd y sedd ar gael ar y daith nesaf. ***
Ceir ardaloedd dan do o amgylch y safle.
Os bydd gennych anghenion dietegol ffoniwch 01492 532938, estyniad 3 a gofynnwch am y Caffi neu’r Bwyty neu anfonwch e-bost i emailzoo@hotelsandtaverns.com.
Ar hyn o bryd nid oes gennym loceri.
Mae gennym doiled i’r anabl ger canol y Sŵ a cheir mannau parcio canolog ar gyfer ymwelwyr anabl.
Cliciwch yma i gael ein datganiad hygyrchedd.
Gallwch ddarganfod yr amrywiaeth o brofiadau yma, a hefyd yr holl wybodaeth angenrheidiol a hefyd manylion ynglŷn â sut i archebu.
Yn sicr mae digon o bethau i’w harchwilio ar ein safle 37 acer! Crwydrwch ar hyd y llwybrau coediog, ymlaciwch ar y llethrau glas a cherddwch ar hyd y milltiroedd o lwybrau troellog gan dreulio diwrnod dymunol yn dysgu am lawer o rywogaethau prin a rhai mewn perygl, o Brydain ac o bob cwr o’r byd.
Gan mai atyniad awyr agored ydym, cofiwch sicrhau fod gennych ddillad addas ar gyfer y cyfnod o’r flwyddyn a’r tywydd ar y dydd. Gan fod y safle ar ben bryn, mae’n hanfodol gwisgo esgidiau fflat!
Bydd sgwteri trydan ag olwynion bychain yn cael trafferth oherwydd arwynebau anwastad.
Nid oes gennym sgwteri na chadeiriau olwyn trydan i’w llogi. Fodd bynnag mae’n bosibl llogi cadeiriau olwyn traddodiadol yn rhad ac am ddim.
Gellir llogi’r rhain yn rhad ac am ddim yn swyddfa’r Sŵ.
Ydym, mae’r Sŵ Fynydd Gymreig yn codi’r 5c angenrheidiol am un bag. Rhaid i holl siopau Cymru godi’r pris hwn yn unol â datganiad Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Oherwydd rhesymau diogelwch ni allwn gadw bagiau neu eiddo ymwelwyr. Gofynnwn i ymwelwyr adael bagiau ac eiddo nad ydynt yn dymuno eu cario o amgylch y parc gartref neu yn y car.
Rydym yn cadw pob eitem o eiddo coll sy’n cael ei darganfod am oddeutu mis. Ar ôl hynny, rhoddir unrhyw eitemau nad ydynt yn cael eu hawlio i sefydliadau elusennol. Os oes gennych ymholiad am rywbeth rydych wedi'i golli yn ystod eich ymweliad â'r Sŵ, cysylltwch â’n Swyddfa drwy ffonio 01492 532938 estyniad 3. Bydd aelod o staff yn falch o gael eich helpu.
Ydym. Rydym yn derbyn yr holl brif gardiau credyd ac eithrio American Express.
Mae gennym staff ar y safle sydd wedi cael hyfforddiant Cymorth Cyntaf llawn. Os byddwch angen cymorth, rhowch wybod i’r Siop Roddion Sŵfenir neu Swyddfa'r Sŵ. Fel arall, siaradwch â'r aelod o staff agosaf.
Ni allwn werthu tail cathod gwyllt oherwydd rhesymau iechyd a diogelwch gan fod eu deiet yn cynnwys cig amrwd.
Yn anffodus nid ydym yn gallu cymryd unrhyw anifeiliaid neu anifeiliaid anwes nad yw pobl yn dymuno eu cadw. Er mwyn cael cyngor ynglŷn â beth i’w wneud gydag anifail neu anifail anwes o’r fath cysylltwch â’r RSPCA neu elusen debyg.
Ydi. Rydym yn gwarantu fod ein prisiau gorau ar gael ar-lein pan fyddwch yn archebu ymlaen llaw, gan ein bod yn cynnig gostyngiad o 5% pan fyddwch yn prynu tocynnau ar-lein. Rhaid prynu’r tocynnau cyn hanner nos, ar y noson cyn eich ymweliad.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau, e-bostiwch education@welshmountainzoo.org neu ffoniwch 01492 532 938. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am brisiau ac archebion cliciwch YMA
Rydym hefyd yn cynnig ystod o sesiynau addysgol ar gyfer gwahanol gyfnodau allweddol a grwpiau sydd â chysylltiad â'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac sydd wedi'u cynllunio i wella dysgu myfyrwyr mewn awyrgylch ystafell ddosbarth amgen. Er mwyn cael rhagor o fanylion cliciwch YMA.
Nid ydym yn caniatáu unrhyw feiciau, sgwteri, ceir plant, byrddau sglefrio na sglefrolwyr o fewn y Sŵ oherwydd gallent fod yn beryglus i chi ac i ymwelwyr eraill.
Ar hyn o bryd nid oes gennym beiriant codi arian ar y safle. Fodd bynnag, mae ein holl siopau a phob man bwyta yn derbyn taliadau â cherdyn.
Ni allwn fyth warantu a fydd anifail penodol yn actif adeg eich ymweliad. Os yw hi’n ddiwrnod oer iawn ac os yw’r anifail yn dymuno aros yn ei ardal gysgu, mae digon o fannau gwylio dan do yn ogystal â rhai y tu allan. Yn aml mae dod draw yn ystod cyfnod tawel yn rhoi boddhad mawr, ac yn caniatáu ichi gael golygfa lawn o’r ffaldiau heb y tyrfaoedd.
Gwefan gan FutureStudios