Dyma un o brif atyniadau Gogledd Cymru, os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud neu leoedd i fynd iddynt pan fyddwch ar eich gwyliau neu pan fyddwch yn ymweld ag Eryri, yr arfordir, Caer neu Ogledd Orllewin Cymru.
Taith 3 munud yn unig o briffordd A55 – ewch allan yng nghyfnewidfa Llandrillo-yn-Rhos (Cyffordd 20) - mae’r Sŵ yn cael ei harwyddo oddi yma. Taith 30 munud o Fangor, 40 munud o Gaernarfon, 60 munud o Wrecsam, 60 munud o Gaer, 80 munud o Lerpwl, 90 munud o Fanceinion.
Os ydych chi’n bwriadu mynd i’r Sŵ Fynydd Gymreig ar y bws, cliciwch y ddolen ganlynol i gael manylion llwybrau ac amseroedd bysiau, drwy gydol y flwyddyn. http://www.arrivabus.co.uk
Os ydych chi’n bwriadu cymryd y trên i fynd i’r Sŵ Fynydd Gymreig, cliciwch y ddolen ganlynol i gael manylion llwybrau ac amseroedd, drwy gydol y flwyddyn http://www.nationalrail.co.uk/