Welsh Mountain Zoo | Arhoswch yn ddiogel yn y Sŵ Fynydd Gymreig

Arhoswch yn ddiogel yn y Sŵ Fynydd Gymreig

Gwelwch isod gwybodaeth pwysig yr ydych chi angen gwybod ynglyn ag ymweld y Sŵ Fynydd Gymreig. Nodwch y gall hyn newid yn ddibynol ar ganllawiau diweddaraf sydd yn cael eu gosod. Gofynwn yn garedig i chi wirio’r dudalen hon yn aml am unrhyw ddiweddariad.


Rydym yn gweithredu nifer o fesurau fel y gallwn ddarparu ymweliad diogel a phleserus i bawb.

Os gwelwch yn dda helpwch ni i’ch helpu chi, fel y bod eich ymweliad i’r Sŵ y gorau a sy’n bosib iddo fod.

Mae rhai o’r mesurau yma yn cynnwys:

  • Mae gorsaf golchi dwylo wedi eu lleoli o gwmpas y Sŵ. Rydym hefyd yn gofyn yn garedig i ymwelwyr gymryd gofal a sylw ychwanegol i lefelau hylendid ac i ddilyn ymarferion hylendid da drwy sicrhau eich bod yn golchi eich dwylo yn iawn ac yn aml hefo sebon a dŵr poeth drwy gydol eich ymweliad.

Os nad yw eich cwestiwn yn cael ei hateb isod, gallwch gysylltu â ni drwy ebostio info@welshmountainzoo.org neu ffonio 01492 532938.

Bydd dewis o fwyd poeth ac oer ar gael ym Mwyty’r Saffari, gyda nifer cyfyngedig o lefydd eistedd ar gael ar system cyntaf i’r felin.

Mi fydd hi hefyd yn bosib i chi gymryd bwyd diod o’r Bwyty Saffari a’r Siop Melysion ‘Zoolicious’ tu allan i’w bwyta / yfed.

Efallai y bydd ciwiau ychydig yn hirach na’r arferol a gofynwn yn garedig eich bod yn deallt yr angen ar gyfer hyn.


Mae croeso ichi ddod â phicnic pan fyddwch yn ymweld â'r Sŵ. Cofiwch gadw at ganllawiau pellter cymdeithasol wrth ddefnyddio ein mannau picnic. Gofynnwn yn garedig ichi waredu eich gwastraff yn gyfrifol yn y biniau ailgylchu a’r biniau gwastraff a ddarparwyd o amgylch y safle.

Rydym wedi bod yn monitro cyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd yn gyson ac rydym yn cadw mewn cysylltiad agos â'n timau milfeddygol a chyrff proffesiynol sŵau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa sy'n datblygu.

Mae ein tîm arbenigol o giperiaid a milfeddygon yn cymryd pob rhagofal i sicrhau fod holl anifeiliaid a holl staff y Sŵ yn ddiogel, ac mae mesurau bioddiogelwch llym ar waith. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae ein tîm ymroddedig yn parhau i sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael yr un gofal a’r un sylw ag y maen nhw’n arfer ei gael drwy gydol y flwyddyn.

Gofynnwn yn garedig i chi beidio ag ymweld â'r Sŵ os oes gennych symptomau COVID-19 neu os oes gennych unrhyw gyflyrau iechyd sylfaenol a allai eich rhoi mewn perygl. Os ydych chi'n fregus mewn unrhyw ffordd, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud y dewis cywir i chi ac i eraill o'ch cwmpas. Dilynwch ganllawiau'r Llywodraeth - https://www.gov.uk/coronavirus

Mae amseroedd agor y Sŵ yn yr haf sef 09:30 – 18:00 yn dal i fod yr un fath, gyda’r mynediad olaf ychydig cyn 17:00.

Does dim dwywaith fod hwn yn gyfnod heriol inni gyd, ond yr argyfwng hwn yw’r un gwaethaf erioed y bu’n rhaid i Sŵ Genedlaethol Cymru ei wynebu yn ystod ei 57 mlynedd o fodolaeth.

Mae ein tîm ymroddedig a hynod weithgar yn parhau i ddarparu'r gofal gorau i’n hanifeiliaid rhyfeddol, fel y gwnânt bob amser. Fodd bynnag, gan fod 140 o rywogaethau i ofalu amdanynt, costau cynnal a chadw o £118,000 y mis yn ystod y cyfnod clo a chan ein bod wedi colli incwm o fwy na £700,000 rhwng mis Ebrill a chanol mis Gorffennaf, mae Cymdeithas Sŵolegol Genedlaethol Cymru (ein Helusen) wirioneddol angen eich cefnogaeth.

Os gallwch, helpwch ni i sicrhau dyfodol y Sŵ drwy wneud rhodd. Waeth faint y byddwch yn ei gyfrannu, bydd y cymorth hwn yn ein helpu i barhau i ofalu am ein hanifeiliaid.

GWNEWCH RODD HEDDIW


Fel y gwyddoch mae’n siwr, mae hwn yn amser prysur eithriadol inni ar y funud. Byddwch yn amyneddgar tra byddwn yn ymateb i bob ymholiad unigol. Efallai y bydd yn cymryd ychydig mwy o amser, ond gallwn eich sicrhau y byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bo modd.

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy e-bost ar info@welshmountainzoo.org

  • All visitors, members and children under the age of three require tickets. You must pre-book tickets online in advance of your visit Zoo members will also need to show their membership card upon arrival. Gift/Complimentary Ticket holders will need to hand these tickets in upon arrival.
  • Tickets must be pre-booked by midnight the day before you plan to visit. Online Tickets cannot be purchased on the day of your visit and tickets cannot be purchased at the gate.
  • TICKETS ARE VALID FOR THE DAY STATED ON THE BOOKING. THEY ARE NON-TRANSFERABLE AND NON-REFUNDABLE.
  • Available booking dates are shown in green on the calendar. When dates are shown in red, the maximum booking capacity has been reached. For dates going forward, please keep checking back for availability as we'll be releasing more dates soon.
  • A Family ticket applies to 2 adults & 2 children or 1 adult & 3 children.
  • A Senior ticket is valid for adults 60 and over, a Child ticket is for ages 3 to 15. Children aged 2 and under are free.
  • Visitors under the age of 14 must be accompanied by an adult.
  • Tickets can only be redeemed during opening hours and the last entry to the Zoo is approximately 1 hour before closing time - Click Here to see Opening Times
  • Disabled - A discounted rate is available for the registered disabled, due to the challenging terrain. Please note that verification of disability status will be required e.g. DLA/PIP Letter, DWP Book, Blue/Orange badge or letter from GP. You will be required to provide this on arrival. Please click here to see our Accessibility Statement before your visit.
  • Carers - If a visitor requests the need for a carer, as long as the above criteria has been met, a discounted carer ticket can be purchased alongside a disabled persons/wheelchair users ticket. Only 1 carer ticket may be purchased per disabled persons/wheelchair users ticket.
Gwefan gan FutureStudios