Ym 1897 prynodd llawfeddyg o Fanceinion, Dr Walter Whitehead, 37 acer o goetir uwchlaw Bae Colwyn, tref wyliau newydd oedd yn ymledu, gyda’r bwriad o ymddeol yno.

Gwnaed cytundeb â Thomas Mawson, y pensaer tirlunio oedd yn enwog yn oes Victoria , i gynllunio tiroedd y stad.

Mae llyfr Mawson ‘The Art and Craft of Garden Making’ yn rhoi rhyw syniad inni ynglŷn â’r cynlluniau oedd ganddo ef a’i bartner Dan Gibson ar gyfer eu prosiect newydd.

Cynlluniwyd ac adeiladwyd llwybrau drwy’r coetir, borderi blodau, gerddi rhosod ffurfiol yn ogystal â thai i’r staff.

Ar ôl marwolaeth Dr Whitehead ym 1913 newidiodd y stad ddwylo nifer o weithiau, a gadawodd bob perchennog newydd ei farc arbennig ei hun ar y stad, yn arbennig Cymdeithas Sŵolegol Cymru.

Oherwydd bod ganddi gasgliad cynyddol o blanhigion caled a throfannol, a rhai ohonynt yn brin neu dan fygythiad, mae’r Sw yn ei hystyried ei hun fel canolfan gadwraeth ar gyfer planhigion yn ogystal ag ar gyfer anifeiliaid. Mae’n sylweddoli fod y gerddi yn rhan o’r adnoddau addysgiadol cyffredinol sydd ganddi.

Mae’r Sw yn cefnogi teithiau botanegol, sy’n ein galluogi i gyflwyno planhigion newydd ac anarferol yn y gerddi. Daeth hadau yma o Chile , canolbarth a dwyrain eithaf Rwsia ac o Fynyddoedd Himalaia, a chafodd y rhain eu plannu mewn mannau addas yn y gerddi.

Mae cydweithio agos â phrif sefydliadau botanegol yn sicrhau cywirdeb wrth adnabod a labelu’r planhigion. Tyfir casgliadau bychain o wahanol rywogaethau. Mae mynawyd y bugail caled, troed y golomen a gwahanol ffurfiau o’r pabi melyn ( mecanopsis cambrica ) i gyd yn tyfu’n dda ar lethrau’r safle hwn.

Mae rhedyn, bromeliadau a llu o blanhigion trofannol anarferol eraill i’w cael yn Nhai’r Ymlusgiaid a’r Aligatoriaid.

Mae amrywiaeth y casgliadau botangeol yn sicrhau fod rhywbeth at ddant pawb – garddwyr, botanegwyr ac unrhyw un arall sy’n ymddiddori mewn bywyd planhigion.